Image
Hero image

Cymerwch Ran

Cymerwch ran. Gwnewch wahaniaeth.

P’un a ydych yn rhoi amser, arian neu arbenigedd, byddwch yn helpu pobl ifanc i ddatgloi eu potensial a chreu gweithlu mwy gwydn, medrus a chynhwysol ar gyfer y dyfodol..

PAM MAE EICH CYMORTH YN BWYSIG

Ychydig iawn o bobl ifanc sy’n dysgu sut i reoli arian, gwneud penderfyniadau ariannol arwyddocaol neu gredu ynddyn nhw eu hunain trwy gwricwlwm traddodiadol yr ysgol yn unig. I lawer, yn enwedig y rhai sy’n wynebu anfantais, mae’r bwlch rhwng addysg a byd gwaith yn teimlo’n rhy eang.

Dyna ble y gallwch chi helpu. Gyda’ch cymorth chi, rydym yn cyflwyno addysg ymarferol sy’n helpu pobl ifanc i wneud y canlynol:

girls in classroom with teacher
  • Datblygu gallu ariannol
  • Teimlo’n gadarnhaol am y dyfodol trwy ddatblygu sgiliau craidd ar gyfer bywyd a gwaith
  • Darganfod eu cryfderau a’u cyfeiriad
  • Gwneud argraff ar gyflogwyr yn y dyfodol gyda’r sgiliau y gallant eu harddangos
  • Ystyried gwahanol lwybrau, fel sefydlu eu busnes eu hunain


Ar yr un pryd, rydym yn helpu i gau bylchau sgiliau critigol – yn enwedig ym meysydd cyfathrebu, gwydnwch, datrys problemau a menter – gan helpu i baratoi cenhedlaeth sy’n barod ar gyfer yr economi fodern.

YR HYN SY’N BOSIBL TRWY EICH CYMORTH

Students speaking.
  • Pobl ifanc sy’n dysgu sut i gyllidebu, cynllunio a rheoli arian
  • Myfyrwyr sy’n datblygu hyder, gwaith tĂ®m a meddwl entrepreneuraidd
  • Mwy o symudedd cymdeithasol trwy fynediad at sgiliau a chyfleoedd
  • Pobl ifanc sy’n fwy tebygol o lwyddo mewn cyfweliadau swyddi a lleoliadau gwaith
  • Cenhedlaeth fwy cynhwysol, gwydn a chyflogadwy
  • Gweithlu cryfach ar gyfer y dyfodol, sy’n barod am yr heriau sydd i ddod.

FFYRDD O GYMRYD RHAN

GWIRFODDOLI EICH AMSER

Ymunwch â’n rhwydwaith o wirfoddolwyr sy’n rhoi bywyd i wersi trwy rannu profiad o’r byd go iawn. Fe allech roi arweiniad i dîm myfyrwyr, helpu i gyflwyno sesiwn neu rannu mewnwelediad o’ch gyrfa – gan ysbrydoli hyder ar hyd y ffordd.

Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr

Volunteer speaking to young person

FFURFIO PARTNERIAETH Ă‚ NI FEL BUSNES

Rydym yn gweithio gyda busnesau i bontio’r bwlch rhwng addysg a byd gwaith. P’un ai trwy wirfoddoli gan gyflogeion, cymorth ariannol, cyflwyno rhaglen neu gydweithio strategol, mae eich partneriaeth yn helpu i roi’r sgiliau i bobl ifanc lwyddo yn y dyfodol, ar yr un pryd â rhoi ffyrdd ystyrlon i’ch timau gyfrannu eu hamser a’u harbenigedd.

Archwiliwch gyfleoedd partneriaeth

HSBC

EIN CEFNOGI NI TRWY ARIANNU NEU ROI

Mae eich cymorth yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, trwy ein hymgyrch Ysbrydoli’r Dyfodol. O grantiau i gyllido dyngarol, mae eich cyfraniad yn cynyddu ein heffaith ac yn creu newid hirdymor trwy fenter ac addysg ariannol.

Dysgwch fwy

Students interacting.
girls in classroom

“Roeddwn i’n hoffi’r ffaith y gallem ni ymgysylltu a rhoi ein barn a’n safbwyntiau ein hunain, a byddai’r gwirfoddolwr yn gwrando ac yn rhoi beirniadaeth adeiladol a chyngor i ni”

Cyfranogwr yn y Dosbarth Meistr Cyflogadwyedd