"Y peth gorau am gymryd rhan yn y Rhaglen Cwmni yw’r profiad rydw i wedi’i gael o weithio mewn tîm. Fe fwynheais i’r broses o gynllunio gwahanol agweddau ar ein cynnyrch a’i wylio’n dod yn fyw wrth i ni roi’r cyfan at ei gilydd. Roedd gwylio ein cynnyrch yn gwerthu’n llwyr yn teimlo fel cyflawniad mawr ac roeddwn i’n teimlo mor falch o’n gwaith caled."
Rhaglen Cwmni
Mae’r Rhaglen Cwmni yn darparu cyfle dysgu go iawn sy’n cyflwyno pobl ifanc i fyd gwaith wrth iddynt sefydlu a chynnal eu cwmni myfyrwyr eu hunain.
CIPOLWG
Rhoi cyfle i bobl ifanc gynnal eu busnes eu hunain – ac ennill yr hyder, y sgiliau a’r profiad i ffynnu yn y gwaith a thu hwnt.
- Ystod oedran – mae’n addas i bobl ifanc 13 – 19 oed
- Cymorth gan wirfoddolwr o fyd busnes, lle bo’n bosibl
- Cyfnod hyblyg – o 12 wythnos hyd at flwyddyn academaidd
- Ffioedd rhaglen – cyfraniad o £560 yn unig fesul cwmni myfyrwyr ar gyfer ysgolion y wladwriaeth neu £2,500 ar gyfer ysgolion annibynnol
- Darparwr Gweithgarwch Cymeradwy ar gyfer Gwobr Dug Caeredin
- Mae’n cynorthwyo eich ysgol neu goleg i weithio tuag at Feincnodau Gatsby
Os ydych yn gweithio gyda phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu ysgafn i gymedrol, fe allech ddymuno edrych ar ein Rhaglen Tîm.
MESUR EIN HEFFAITH
Mae gan 91% o bobl ifanc y dewrder i ddal ati pan fydd dysgu’n anodd iddynt
Mae 87% o bobl ifanc yn credu bod yr hyn maen nhw’n ei ddysgu o’r Rhaglen Cwmni yn werthfawr
Roedd 96% o addysgwyr yn credu bod y Rhaglen Cwmni yn cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o’u cryfderau a’u gwendidau eu hunain
GWYLIWCH Y CYFLWYNIAD I’R RHAGLEN CWMNI
MEDDYLIAU MENTRUS. DYFODOL SY’N BAROD AM WAITH.
Wedi’u cefnogi gan yswiriant Cynnyrch ac Atebolrwydd Cyhoeddus gwerth £10m, mae’r myfyrwyr yn gwneud yr holl benderfyniadau mawr am eu cwmni myfyrwyr, o ddod o hyd i gyfalaf cychwynnol i ddewis rolau cyfarwyddwr, lansio cynnyrch neu wasanaeth a rheoli cyllid eu cwmni.
Yn rhan o’r rhaglen, gall myfyrwyr sefydlu cyfrif cyfredol busnes ar gyfer eu cwmni myfyrwyr gyda Card One Money, a gwerthu i’r cyhoedd mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb a thrwy ein siop ar-lein, YE Trading Station. Mae tasgau gam wrth gam, gweithgareddau ac adnoddau ar gael ar ein platfform penodol, Company Connect, lle mae myfyrwyr yn rheoli proffil eu cwmni gyda’i gilydd.
Os bydd ar gael, bydd gwirfoddolwr busnes Young Enterprise (sydd wedi cael archwiliad dilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)) yn cael ei ddyrannu i gynnig cymorth ychwanegol. Gellir cynnal sawl cwmni myfyrwyr o’r un ysgol, coleg neu ganolfan gyda hyd at 32 o fyfyrwyr ym mhob tîm. Gall cwmnïau myfyrwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol, sirol a rhanbarthol i ennill lle yn ein rownd derfynol genedlaethol Cwmni’r Flwyddyn.
Mae’r Telerau ac Amodau a’r Fframwaith Gweithredu llywodraethol ar gael yma.
CANLYNIADAU DYSGU
- Datblygu ffordd o feddwl sy’n barod ar gyfer gwaith
- Datblygu sgiliau arwain, gwaith tîm a chyfathrebu
- Ennill profiad go iawn o gynnal busnes
- Deall cryfderau personol a sut i dyfu
- Cynllunio’r camau nesaf yn hyderus ac yn bwrpasol
Popeth y mae arnoch ei angen i ddechrau arni gyda’r Rhaglen Cwmni
Lawrlwythwch y Daflen Rhaglen Cwmni i gael rhagor o wybodaeth amdani:
Taflen Rhaglen Cwmni (Saesneg)
Taflen Rhaglen Cwmni (Cymraeg)
Gwyliwch ein fideo hyrwyddo ar gyfer y Rhaglen Cwmni:
Fideo hyrwyddo addysgwyr (Saesneg)
Fideo hyrwyddo addysgwyr (Cymraeg)
Cyllid ar gyfer y rhaglen – A ninnau’n elusen annibynnol genedlaethol, rydym yn dibynnu ar godi arian i gyflwyno ein rhaglenni i gefnogi pobl ifanc. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner corfforaethol i’r Rhaglen Cwmni, cysylltwch â [email protected].