Mae’ch Arian o Bwys

Ariannwyd y gwerslyfr Your Money Matters gwreiddiol gan Martin Lewis, sef sylfaenydd MoneySavingExpert.com, ac fe’i hanfonwyd i ysgolion uwchradd yn Lloegr a ariennir gan y wladwriaeth yn hwyr yn 2018.

Gyda chymorth Martin Lewis a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, rydym wedi cynhyrchu argraffiad ar gyfer Cymru y gellir ei lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Gwerslyfr ar gyfer myfyrwyr yn estyniad naturiol o’r Fframweithiau Cynllunio Addysg Ariannol, ac mae’n cynnwys arweiniad ar faterion fel:

Cynilo a gwario

Benthyca

Dyled dda a drwg

Risg a gwobr

Yswiriant

Buddsoddiadau

Cynllunio ar gyfer y dyfodol o ran benthyciadau myfyrwyr

Treth ac yswiriant gwladol

Mae Canllaw cysylltiedig i Athrawon ar gael i’w lawrlwytho hefyd i roi cymorth ychwanegol iddynt. Mae’n amlygu meysydd arfer da, yn rhoi enghreifftiau o integreiddio’r cwricwlwm, ac yn dangos cymorth allanol ychwanegol y gallai ysgolion ei ddefnyddio i gyfoethogi eu darpariaeth addysg ariannol.

Gallwch hefyd lawrlwytho fersiynau PowerPoint o bob pennod o’r Gwerslyfr i’w defnyddio yn eich gwersi, neu i olygu a theilwra rhannau o’r cynnwys yn dibynnu ar oedran a gallu eich dosbarth. Gallwch lawrlwytho’r fersiynau PowerPoint yma.