9c43925c-1a67-416f-8be8-7e95ae54b0be.png

Arwyr Arian

Mae Arwyr Arian yn rhaglen arobryn sy’n cael ei hariannu’n llawn gan Young Enterprise, gyda chymorth gan HSBC UK, sy’n ceisio trawsnewid addysg ariannol ar gyfer plant cynradd neu’r rhai sy’n gweithio ar oedran dysgu 3-11.

CIPOLWG

  • Mae’n addas i blant 3-11 oed/plant ysgol gynradd
  • Mae Arwyr Arian yn rhad ac am ddim i athrawon a rhieni
  • Mae’n ffordd wych o ddechrau cyflwyno addysg ariannol
  • DPP a sesiynau mentora i ysgolion cynradd ac athrawon am ddim 

Yn Arwyr Arian, rydyn ni’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno addysg ariannol o ansawdd uchel trwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) am ddim ac ystod eang o weithgareddau, offer ac adnoddau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Rydyn ni hefyd yn cynorthwyo rhieni i ddatblygu gallu ariannol eu plant gartref trwy ein hamrywiaeth o lyfrau stori, gemau a gweithgareddau i’w gwneud gartref a luniwyd i wneud dysgu am arian yn ddifyr.

Mae ein hamrywiaeth o offer ac adnoddau o ansawdd uchel yn hyblyg i’w defnyddio mewn ystod eang o leoliadau addysgol. Mae Arwyr Arian wedi’i llunio i gynorthwyo unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu eu gallu ariannol.

DYSGU YMARFEROL. EFFAITH GO IAWN.

5,100

Wedi cyrraedd dros 5,100 o ysgolion a sefydliadau

16,700

Wedi cyrraedd dros 16,700 o rieni

1,777,055

Wedi cyrraedd dros 1,777,055 o bobl ifanc

CANLYNIADAU DYSGU

young people in classroom
  • Rhoi’r hyder i rieni ac addysgwyr gyflwyno addysg ariannol o ansawdd uchel
  • Ennyn diddordeb plant mewn dysgu am arian mewn ffordd ddifyr
  • Darparu DPP a mentora am ddim i ysgolion cynradd a’u hathrawon
  • Darparu’r adnoddau a’r gweithgareddau i bob ysgol gynradd wneud addysg ariannol yn rhwydd ac yn ddifyr