“Roedd y myfyrwyr wedi’i mwynhau’n fawr i’r pwynt lle’r oedden nhw’n dweud, ‘pryd gallwn ni wneud rhagor?’ Roedd yn wych oherwydd cafodd ei ddilyn gan Ddiwrnod Menter ein hysgol lle cawson nhw wario arian a chyllidebu, felly roedd yn gweddu’n berffaith i ddatblygu’r sgiliau yr oedden nhw wedi’u dysgu o’r wythnos honno ac roedd yn rhyfeddol gweld eu hyder”
Fy Wythnos Arian
Mae Fy Wythnos Arian yn wythnos genedlaethol o weithgareddau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n rhoi cyfle gwych i bobl ifanc ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder mewn materion ariannol y mae arnynt eu hangen i ffynnu mewn cymdeithas.

CIPOLWG
- Yn addas i fyfyrwyr 4-18 oed
- Adnoddau newydd, rhad ac am ddim ar gael bob blwyddyn yn nhymor yr Haf
- Ffordd wych o ddechrau cyflwyno addysg ariannol
- Wythnos weithgareddau i ymgysylltu â’r ysgol gyfan
Nod Fy Wythnos Arian yw ennyn diddordeb plant a phobl ifanc 4-18 oed mewn materion ariannol. Mae’n gyflwyniad gwych i addysgwyr sy’n newydd i addysg ariannol ac mae’n darparu adnoddau, deunyddiau a syniadau newydd sbon bob blwyddyn i’r rhai sydd eisoes yn ei haddysgu.
Canolbwyntiodd Fy Wythnos Arian 2025 ar sut gall pobl ifanc wneud y mwyaf o’u harian. Archwiliodd myfyrwyr arferion gwario a chynilo a darganfod sut mae ffactorau allanol fel hysbysebu a phrisiau sy’n codi yn dylanwadu ar eu penderfyniadau.
Gyda’n gilydd, gadewch i ni arfogi pobl ifanc â’r offer i ddysgu sut i ennill a rheoli arian!
Mae adnoddau o Fy Wythnos Arian 2025 a blynyddoedd blaenorol ar gael i’w lawrlwytho o Hwb Adnoddau Fy Wythnos Arian (sydd bellach ar gael yn Gymraeg a Saesneg)!
CANLYNIADAU DYSGU
- Ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu am arian
- Rhoi’r hyder a’r offer i addysgwyr gyflwyno addysg ariannol o ansawdd uchel
- Darparu adnoddau newydd, ysbrydoliaeth a syniadau i ysgolion sydd eisoes yn addysgu llythrennedd ariannol
- Rhoi cartref i addysg ariannol yng nghalendr yr ysgol
- Creu mudiad cenedlaethol i arfogi plant a phobl ifanc â’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau i reoli eu harian
OFFERYN ALLWEDDOL
- Hwb Adnoddau Fy Wythnos Arian
- Cysylltwch â [email protected] i gael gwybod sut i ymgorffori hyn yn eich ystafell ddosbarth