7ae729fe-4893-4bf2-8e5f-24e87ae68b20_removalai_preview.png

Rhaglen Tîm

Mae’r Rhaglen Tîm yn daith fenter ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu ysgafn i gymedrol.

CIPOLWG

Rhoi cyfle i bobl ifanc gynnal eu busnes eu hunain – ac ennill yr hyder, y sgiliau a’r profiad i ffynnu.

  • Ystod oedran – pobl ifanc 15-19 oed (cymwysterau lefel mynediad/lefel 1)
  • Taflenni gwaith argraffedig y gellir eu haddasu ac arweiniad i addysgwyr
  • Cyfnod hyblyg – o 12 wythnos hyd at flwyddyn academaidd
  • Ffioedd rhaglen – cyfraniad o £560 yn unig fesul cwmni myfyrwyr ar gyfer ysgolion y wladwriaeth neu £2,500 ar gyfer ysgolion annibynnol
  • Darparwr Gweithgarwch Cymeradwy ar gyfer Gwobr Dug Caeredin
    DofE    
  • Mae’n cynorthwyo eich ysgol neu goleg i weithio tuag at Feincnodau Gatsby       
    Gatsby benchmark  

Mesur ein Heffaith

82
%

Roedd 82% o athrawon yn cytuno bod y Rhaglen Tîm wedi gwella gwaith tîm a sgiliau datrys problemau.

73
%

Roedd 73% o athrawon yn cytuno bod y Rhaglen Tîm wedi gwella parodrwydd ar gyfer gwaith.

Lawrlwythwch Gylchgrawn y Rhaglen Cwmni a Thîm ar gyfer astudiaethau achos, gwybodaeth ac uchafbwyntiau.

Hyder. Annibyniaeth. Sgiliau Am Oes.

team programme winners

Mae’r Rhaglen Tîm yn brofiad menter cynhwysol a luniwyd ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu ysgafn i gymedrol. Trwy sefydlu a chynnal eu busnes eu hunain, mae myfyrwyr yn dysgu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd, yn ennill hyder ac yn paratoi ar gyfer pontio o addysg i gyflogaeth neu fyw’n annibynnol. Mae cymorth ar gael ar gyfer pob cam, ond nhw sy’n arwain y ffordd.

Darllenwch am Thrive and Shine, a gymerodd ran yn y Rhaglen Tîm yn ddiweddar.

Canlyniadau Dysgu

  • Deall arian a rhifau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm 
  • Datblygu sgiliau bywyd ar gyfer annibyniaeth a chyflogaeth
  • Adnabod cryfderau personol a dewisiadau
  • Teimlo’n hyderus am y camau nesaf a chyfleoedd yn y dyfodol 
Dis+Advantage  Team Programme

“Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd amlwg wrth gymryd rhan bob blwyddyn. Mae hyder a sgiliau cyfathrebu yn cynyddu’n sylweddol ac mae hyn yn cael dylanwad mawr ar eu gallu i gael cyflogaeth gynaliadwy.”

Athro AAAA

Popeth y mae arnoch ei angen i ddechrau arni gyda’r Rhaglen Tîm

Lawrlwythwch y Daflen Rhaglen Tîm i gael rhagor o wybodaeth amdani: 
Taflen Rhaglen Tîm (Saesneg) 
Taflen Rhaglen Tîm (Cymraeg) 

Gwyliwch ein fideo hyrwyddo ar gyfer y Rhaglen Tîm: 
Fideo hyrwyddo addysgwyr (Saesneg) 
Fideo hyrwyddo addysgwyr (Cymraeg)   

Cyllid ar gyfer y rhaglen – A ninnau’n elusen annibynnol genedlaethol, rydym yn dibynnu ar godi arian i gyflwyno ein rhaglenni i gefnogi pobl ifanc. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner corfforaethol i’r Rhaglen Tîm, cysylltwch â  [email protected]