3674be2d-a9be-47fe-a168-23c2869d04bf.png

Yr Her Bumpunt

Mae plant 5-11 oed yn cael pedair wythnos i ymchwilio i’w busnes eu hunain, ei greu, ei gynllunio a’i gynnal gydag ernes £5.

fiver x hsbc logo

CIPOLWG

  • Wedi ymgysylltu â dros 350,000 o bobl ifanc
  • Wedi’i hachredu gan Skills Builder
  • Dwyieithog – ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • Wedi’i hariannu’n llawn
  • Wedi’i hachredu gan Skills Builder  
    Skills Builder Accreditation  
  • Mae’n helpu eich ysgol neu goleg i weithio tuag at Feincnodau Gatsby 
    Gatsby benchmark  
96
%

Mae 96% o athrawon yn cytuno bod yr Her Bumpunt yn rhoi cyfle i blant ddysgu am reoli arian.

81
%

Mae 81% o athrawon yn cytuno bod yr her yn rhoi gwybod i bobl ifanc am wahanol rolau gyrfaol a chyfleoedd yn y dyfodol.

96
%

Mae 96% o athrawon yn cytuno bod yr Her Bumpunt yn rhoi cyd-destun dysgu go iawn.

Lawrlwytho Adroddiad Effaith yr Her Bumpunt

Mae’r Her Bumpunt, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, wedi’i llunio i bara am bedair wythnos ac mae’n cynnig cyflwyniad gwych i fenter a byd gwaith, gyda chyfle i gymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau ar hyd y ffordd, ennill gwobrau ac ymddangos yn Arddangosfa’r Her Bumpunt.

Nid dyna ddiwedd y dysgu; gellir cyflwyno adnoddau’r Her Bumpunt a phrosiect DIY yn hyblyg, ar hyd y flwyddyn academaidd. 

Mae hyn yn rhoi ffordd ddifyr i’ch disgyblion brofi addysg fenter a’u paratoi ar gyfer her y flwyddyn nesaf.

Mae’r Her Bumpunt yn ffordd wych o gyflwyno pobl ifanc i syniadau am waith ar yr un pryd â datblygu sgiliau sy’n berthnasol i bynciau trwy ddysgu ymarferol. Yn 2024, cymerodd 18,668 o bobl ifanc ran yn yr Her Bumpunt yng Nghymru a Lloegr.

TRI ADNODD ALLWEDDOL

Image
Fiver teacher guide
Image
Fiver intro slides
Document
Image
Fiver Workbook
Document
Don

"Fy hoff atgof oedd gwerthu’r bocsys ar y stondin y tu allan i’r ysgol. Roeddwn i wrth fy modd yn esbonio’r bocsys i bobl ac yn teimlo’n falch a chyffrous iawn wrth werthu un. Roedd ennill y wobr Unigolyn Mwyaf Ysbrydoledig yn sioc, ond fe roddodd hwb mawr i’m hyder."

Myfyriwr Cynradd, Twickenham