10_X_3.png

Her 10X

Rhaglen ryngweithiol iawn sy’n cynnig profiad uniongyrchol i hybu hyder a meithrin meddwl mentrus. O wanwyn 2027, bydd 10X yn ail-lansio fel her menter ar ei newydd wedd, wedi’i theilwra i anghenion addysgwyr a myfyrwyr heddiw.

Y flwyddyn nesaf, bydd Her 10X yn edrych ychydig yn wahanol, ond bydd yn parhau i gadw’r ysbryd mentrus sydd wrth wraidd hunaniaeth y rhaglen.  

O wanwyn 2027 ymlaen, bydd y rhaglen yn ail-lansio fel her menter sy’n cwmpasu addysg gynradd ac addysg uwchradd. 

Mae’r rhaglen wedi’i hailgynllunio gan ddefnyddio adborth gan athrawon, myfyrwyr, rhieni, gwirfoddolwyr a phartneriaid, gan ein helpu i greu profiad sy’n adlewyrchu anghenion dysgwyr ac addysgwyr heddiw yn well.

Bydd y rhaglen ar ei newydd wedd yn cynnig profiad mwy deniadol, hyblyg a greddfol, gan aros yn driw i’r profiadau mentrus sydd wedi ysbrydoli pobl ifanc ers blynyddoedd. Mae eich adborth wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio'r hyn sy'n dod nesaf, ac edrychwn ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth gyda chi’n fuan.

Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r rhaglen, rhowch wybod eich manylion i ni. Edrychwn ymlaen yn fawr at rannu rhagor gyda chi!

FAQ

A fydd 10X yn parhau i gael ei chynnal y flwyddyn nesaf?
Bydd, ond mae newidiadau ar y ffordd! O wanwyn 2027, bydd 10X yn ail-lansio fel her menter ar ei newydd wedd, wedi’i theilwra i anghenion addysgwyr a myfyrwyr heddiw. Unwaith y bydd y dyddiadau a’r manylion perthnasol ar gyfer y rhaglen wedi’u cadarnhau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. 

Pam ydych chi wedi penderfynu ail-lansio’r rhaglen?
Drwy adnewyddu ac ail-lansio’r rhaglen, gallwn symleiddio a chryfhau’r cynnig, gan sicrhau defnydd gwell o’n hadnoddau a’n cymorth. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill!

A fydd yr adnoddau’n cael eu haddasu ar gyfer gwahanol oedrannau a galluoedd? 
Byddan. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau a galluoedd.

A fydda i’n dal i allu cael gafael ar adnoddau presennol 10X tra bod y rhaglen yn cael ei hadnewyddu?
Mae adnoddau 10X DIY ar gael i’w lawrlwytho o dan yr adran ‘Adnoddau’ ar y wefan hon, ac fe fyddan nhw’n parhau i fod ar gael tan lansiad y rhaglen ar ei newydd wedd. Mae modd defnyddio’r adnoddau mewn ffordd hyblyg i gefnogi gweithgareddau dysgu menter ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn.

Sut alla i gysylltu os oes gen i ragor o gwestiynau?
Gallwch gysylltu â’r tîm yma: [email protected]

girls hold a £10 note

"Fe sylweddolais i fy mhotensial a sut galla’ i gyfrannu at fy nghymunedau lleol a byd-eang. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol sy’n hyrwyddo ffordd gynaliadwy o fyw.” 

Myfyriwr, yr Her 10X