I’w gwblhau gan athrawon ar ôl i’r gwerslyfrau gael eu dosbarthu.
Sgroliwch i lawr i gael mynediad i'r arolygon yn Gymraeg neu defnyddiwch y ddolen isod i gael mynediad i'r arolygon yn Saesneg.
EnglishGwerslyfr addysg ariannol yw Mae’ch Arian o Bwys a gynhyrchwyd gan Young Money, sy’n rhan o Young Enterprise. Gyda chyllid gan Martin Lewis OBE a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, cynhyrchwyd argraffiadau newydd, perthnasol ac wedi’u diweddaru o Mae’ch Arian o Bwys ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Anfonwyd argraffiad Cymru (yn Gymraeg ac yn Saesneg) at bob ysgol ganol ac uwchradd yng Nghymru a ariennir gan y wladwriaeth yn yr hydref 2021.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn awyddus i ddeall effaith y gwerslyfr Mae’ch Arian o Bwys, y Canllaw i Athrawon a’r sleidiau PowerPoint ar gyfer gwersi sy’n ymwneud â chyflwyno addysg ariannol mewn ysgolion yng Nghymru, ac fe’ch gwahoddwn i rannu eich profiadau gyda ni trwy arolwg gwerthuso.
Lawrlwythwch Argraffiad Cymru o Mae’ch Arian o BwysBydd holl Arolygon Cymru, ynghyd â Gwybodaeth Caniatâd Rhieni, ar gael i’w lawrlwytho isod (unwaith y byddant ar gael) pe byddech yn dymuno ichi adolygu’r cwestiynau cyn cymryd rhan.