Mae’ch Arian o Bwys – Argraffiad Cymru

Produced by Cynhyrchwyd gan Young Money

Minimum Age: 14
Maximum Age: 16

Lluniwyd Mae’ch Arian o Bwys (Argraffiad Cymru) i’w ddefnyddio gyda phobl ifanc 14 – 16 oed yng Nghymru ac mae’n ymdrin â phynciau fel gwario a chynilo, benthyca, dyled, yswiriant, cyllid myfyrwyr a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

I weld fersiwn Saesneg cliciwch yma.

Ariannwyd y gwerslyfr Your Money Matters gwreiddiol gan Martin Lewis, sef sylfaenydd MoneySavingExpert.com, ac fe’i hanfonwyd i ysgolion uwchradd yn Lloegr a ariennir gan y wladwriaeth yn hwyr yn 2018.

Gyda chymorth Martin Lewis a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, rydym wedi cynhyrchu argraffiad ar gyfer Cymru y gellir ei lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Gwerslyfr ar gyfer myfyrwyr yn estyniad naturiol o’r Fframweithiau Cynllunio Addysg Ariannol, ac mae’n cynnwys arweiniad ar faterion fel:

  • Cynilo a gwario
  • Benthyca
  • Dyled dda a drwg
  • Risg a gwobr
  • Yswiriant
  • Buddsoddiadau
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol o ran benthyciadau myfyrwyr
  • Treth ac yswiriant gwladol

Mae Canllaw cysylltiedig i Athrawon ar gael i’w lawrlwytho hefyd i roi cymorth ychwanegol iddynt. Mae’n amlygu meysydd arfer da, yn rhoi enghreifftiau o integreiddio’r cwricwlwm, ac yn dangos cymorth allanol ychwanegol y gallai ysgolion ei ddefnyddio i gyfoethogi eu darpariaeth addysg ariannol.

Gallwch hefyd lawrlwytho fersiynau PowerPoint o bob pennod o’r Gwerslyfr i’w defnyddio yn eich gwersi, neu i olygu a theilwra rhannau o’r cynnwys yn dibynnu ar oedran a gallu eich dosbarth. Gallwch lawrlwytho’r fersiynau PowerPoint yma.

Dysgwch fwy am y gwerslyfr Mae’ch Arian o Bwys yma.