Mae’ch Arian o Bwys

Gwerslyfr Addysg Ariannol

English

Lluniwyd Mae’ch Arian o Bwys i’w ddefnyddio gyda phobl ifanc 14 – 16 oed ac mae’n ymdrin â phynciau fel gwario a chynilo, benthyca, dyled, yswiriant, cyllid myfyrwyr a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma’r gwerslyfr addysg ariannol cyntaf, ac ar ôl iddo gael ei gyflwyno’n llwyddiannus mewn ysgolion yn Lloegr yn 2018, rydym yn gyffrous i gyflwyno fersiynau penodol ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Martin Lewis, sef sylfaenydd MoneySavingExpert.com, wedi rhannu cost datblygu’r argraffiadau hyn o Mae’ch Arian o Bwys sy’n benodol i wledydd unigol.

Gallwch lawrlwytho pob rhifyn o’r Gwerslyfr, ynghyd â’r canllaw i athrawon, yn rhad ac am ddim trwy ddilyn y dolenni isod.

Ydych chi wedi defnyddio Mae’ch Arian o Bwys gyda’ch myfyrwyr?

Mae Young Money, gyda Young Enterprise yr Alban a Young Enterprise Gogledd Iwerddon, wedi ffurfio partneriaeth gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Caeredin i werthuso effaith Mae’ch Arian o Bwys mewn ysgolion ledled y Deyrnas Unedig.

Rydym yn chwilio am ysgolion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i gyfranogi yn y gwerthusiad hwn trwy gwblhau arolygon a chymryd rhan mewn astudiaethau achos. Mae’r cyfleoedd gwerthuso sydd ar gael ychydig yn wahanol ar gyfer pob gwlad, felly cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy am sut gallwch gymryd rhan.

Dysgwch fwy am werthusiad Mae’ch Arian o Bwys

Beth sydd yn y gwerslyfr?

Mae’r gwerslyfr yn cynnwys ffeithiau a gwybodaeth yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol a chwestiynau er mwyn i’r myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth.

Mae’r penodau fel a ganlyn:

  1. Cynilo– ffyrdd o gynilo, llog, arian ac iechyd meddwl
  2. Gwneud y mwyaf o’ch arian– cyllidebu, cadw golwg ar eich cyllideb, ffyrdd o dalu, gwerth am arian, gwario
  3. Benthyca– dyled, APR, cynhyrchion benthyca, dyled na ellir ei rheoli
  4. Symud ymlaen o’r ysgol, byd gwaith– cyllid myfyrwyr, prentisiaethau, enillion, treth, pensiynau, budd-daliadau
  5. Risg a gwobr– buddsoddiadau, gamblo, yswiriant
  6. Diogelwch a thwyll– dwyn hunaniaeth, twyll ar-lein, mulod arian

Mae canllaw cysylltiedig i athrawon ar gael i roi cymorth ychwanegol iddynt. Mae’n amlygu meysydd arfer da, yn rhoi enghreifftiau o integreiddio’r cwricwlwm, ac yn dangos cymorth allanol ychwanegol y gall ysgolion ei ddefnyddio i gyfoethogi eu darpariaeth addysg ariannol.

Lloegr

Mae’r gwerslyfr Your Money Matters gwreiddiol i’w ddefnyddio yn Lloegr (argraffiad wedi’i ddiweddaru, mis Ionawr 2021) ar gael i’w lawrlwytho.

Ewch i Argraffiad Lloegr

Gogledd Iwerddon

Mae’r gwerslyfr Your Money Matters i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon ar gael i’w lawrlwytho.

Ewch i Argraffiad Gogledd Iwerddon

Yr Alban

Mae’r gwerslyfr Your Money Matters i’w ddefnyddio yn yr Alban ar gael i’w lawrlwytho.

Ewch i Argraffiad yr Alban

Cymru

Mae’r gwerslyfr Mae’ch Arian o Bwys i’w ddefnyddio yng Nghymru ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ewch i Argraffiad Cymru
Gwneud y mwyaf o Mae’ch Arian o Bwys

Gwneud y mwyaf o Mae’ch Arian o Bwys

Bydd ein hystod amrywiol o Hyfforddiant Athrawon yn eich helpu i ddatblygu a chyflwyno addysg ariannol effeithiol a diddorol yn y cwricwlwm uwchradd mewn ffordd sy’n adlewyrchu bywyd go iawn ac yn berthnasol i’ch myfyrwyr.

Hyfforddiant Athrawon
Mae mwy o adnoddau ar gael yn ein Hwb Adnoddau

Mae mwy o adnoddau ar gael yn ein Hwb Adnoddau

Gallwch hefyd fynd i’r hwb adnoddau i gael amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau addysgu addysg ariannol y gellir eu defnyddio i ategu’r gweithgareddau a geir yn Mae’ch Arian o Bwys.

Porwch drwy’r adnoddau

Cysylltwch â’n Gwasanaeth Cynghori i gael cymorth ac arweiniad ar sut i wneud y mwyaf o Mae’ch Arian o Bwys

020 4526 6389

Sylwch ein bod wedi cael gwybod am sefydliad sy’n cysylltu ag unigolion yn gofyn am roddion mewn perthynas â’r Gwerslyfr. Ni fyddem byth yn gofyn i unigolion am roddion tuag at y Gwerslyfr ac nid ydym wedi awdurdodi unrhyw sefydliad i wneud hyn ar ein rhan. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040.